Cymraeg
BAAF Cymru
Croeso i dudalen BAAF Cymru a’r gwasanaethau yr ydym yn ei gynnig yng Nghymru. Mae BAAF Cymru yn gweithredu o ddwy swyddfa sydd wedi eu lleoli yn y Gogledd (Y Rhyl) a’r De (Caerdydd) ac yn cynnig amrywiaeth lawn o gyngor, gwybodaeth, hyfforddiant a chyhoeddiadau. Mae gwasanaeth dwyieithog ar gael yn swyddfa y Rhyl.
Ar ran yr holl Asiantaethau Mabwysiadu, Maethu a Gofal Plant yng Nghymru gallwn hefyd gynnig cyngor arbenigol at ateb anghenion plant lleiafrif ethnig du a phlant a phobol ifanc ffoaduriaid.
Hefyd cefnogwn Gonsortiwm Asiantaethau Mabwysiadu De Cymru – cysylltwch â www.swaac.org.uk
Ein hardal
Rydym yn gweithio trwy Gymru gyfan
Newyddion BAAF - Cymru
Diwrnod agored – dewch draw i’n gweld yn ein swyddfa newydd!
Dydd Iau, 8fed o Ragfyr rhwng 2.30 – 4.30 byddwn yn croesawu staff sydd newydd gael eu hapwyntio i Ofal Plant, aelodau timoedd Lleoli Teuluoedd a Swyddogion Hyfforddi i:
- Drafod ymarferion gyda’r Ymgynghorwyr
- Edrych llyfrau y llyfrgell
- Cardiau Nadolig a Mins Pei
- Pecyn gwybodaeth am ddim i bod awdurdod
Os hoffech fynychu e-bostiwch rhyl@baaf.org.uk neu ffonio 01745 336336
Arolygu Ofsted
Yn dilyn ein canmoliaeth ragorol gan Ofsted am gyflwyno gwasanaeth fel Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol ac Asiantaeth Cymorth Mabwysiadu yn Lloegr, mewn perthynas ag AGGCC, mae Ofsted wedi cyhoeddi y byddan nhw’n archwilio rôl BAAF Cymru fel Asiantaeth Fabwysiadu ac Asiantaeth Cymorth Mabwysiadu.
Er bod y gwaith a wnawn yng Nghymru ar raddfa lai na’n cydweithwyr yn Lloegr, bydd y datblygiad hwn yn rhoi’r cyfle i ni ffurfioli ein statws yng Nghymru fel Asiantaeth Fabwysiadu ac fel Asiantaeth Cymorth Mabwysiadu. Bydd hefyd yn rhoi mecanwaith ar gyfer archwilio allanol ac adborth gan randdeiliaid.
Rydym wedi cael gwybod y bydd yr Archwiliad yng Nghymru yn digwydd yn fuan yn 2012 felly fe roddwn wybod i’r aelodau am ddatblygiadau.
Sut gallwn ni helpu
- Llinell gyngor i aelodau'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol - am gyngor a gwybodaeth ynghylch mabwysiadu, maethu ac olrhain perthnasau.
- Gwasanaethau ymgynghori i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys cymorth trylwyr ar achosion cymhleth a materion eraill.
- Hyfforddiant yng Nghymru - ystod eang o gyrsiau i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Ymgynghori ar anghenion hyfforddi eich asiantaeth. Yn ogystal â hyn gallwn gynnig mentora staff yn unigol ac Adolygiadau Achos Difrifol
Mae croeso i staff cyfreithiol a gweithwyr proffesiynol meddygol yn ogystal â staff gwaith cymdeithasol ymweld â'n swyddfeydd i gael trafodaeth anffurfiol a defnyddio llyfrgell cyhoeddiadau BAAF.
Mae pob swyddfa yn cynnal diwrnod agored yn flynyddol i weithwyr cymdeithasol gofal plant a lleoliad teulu sy'n rhoi cyfle iddynt ymgyfarwyddo â'r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gan BAAF Cymru. Mae'r diwrnodau hyn yn rhad ac am ddim ac mae pob ymwelydd yn cael pecyn gwybodaeth. Cysylltwch â'ch swyddfa agosaf am fanylion pellach.
Ein tîm
Caerdydd
Wendy Keidan – Cyfarwyddwr BAAF Cymru
Val Leung/ Fiona Probert – Staff Gweinyddol
Maureen Ingham, Roz Waterhouse – Hyfforddwyr Ymgynghorol
Sarah Coldrick - Ymgynghorydd Cyfreithiol
Y Rhyl
Non Davies, Craig Wilkinson – Hyfforddwyr Ymgynghorol
Erina Roberts – Staff Gweinyddol
Dim ond gadael i chi wybod o Ddydd Mercher, Awst 10fed ein cyfeiriad newydd fydd:
BAAF Cymru Y Rhyl
W2
Canolfan Busnes Morfa Clwyd
84 Ffordd Marsh
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 2AF
Featured events
|
Ymlyniad yn y Dosbarth 28 Feb 2012 |
|
Optimeiddio a Gwella Canlyniadau i blant a phobl... 15 Mar 2012 |
Key local/regional links
The Adoption Register for England & Wales:
www.adoptionregister.org.uk
Children in Wales:
www.childreninwales.org.uk
Fostering Network:
www.fostering.net/wales
The National Assembly for Wales:
www.wales.gov.uk
IRM Cymru - Independent Review Mechanism
www.irdcymru.org.uk

